Cymdeithas Cristnogion mewn Cwnsela a Phroffesiynau Cysylltiedig
Ewch i'r wefan: http://www.acc-uk.org
Mae Cymdeithas Cristnogion mewn Cwnsela a Phroffesiynau Cysylltiedig (ACC) yn gorff proffesiynol ac yn elusen gofrestredig sy'n cynrychioli cynghorwyr Cristnogol a seicotherapyddion yn y Deyrnas Unedig.
(Newidiodd yr ACC ei enw ym mis Hydref 2022 o Gymdeithas y Cwnselwyr Cristnogol i Gymdeithas y Cristnogion mewn Cwnsela a Phroffesiynau Cysylltiedig .)
Cwblhawyd ein hasesiad adnewyddu llawn (ar gael i’w lawrlwytho isod) o Gymdeithas y Cristnogion mewn Cwnsela a Phroffesiynau Cysylltiedig ym mis Mehefin 2024, a bryd hynny, penderfynodd y Panel Achredu adnewyddu achrediad yr ACC yn amodol ar yr amodau isod. Byddwn yn diweddaru statws yr amodau hyn maes o law.
Amodau - Safon Dau
- Mae'n rhaid i'r PGC adolygu ei Broses Apeliadau mewn perthynas â phenderfyniadau cofrestru i sicrhau ei bod yn cwmpasu pob sail dros apelio.
- Rhaid i'r PGC gyhoeddi gwybodaeth glir i wahaniaethu rhwng y cyfeiriadur a'r gofrestr achrededig.
Dyddiad cau - Ionawr 2025
Amodau - Safon Pump
- Mae'n rhaid i'r PGC ddiweddaru polisi C1 i gynnwys cyfeiriad ynghylch hyfforddiant EDI i'r Panel Disgyblu os bydd angen.
Dyddiad cau - Ionawr 2025
Amodau - Safon Saith
- Rhaid i'r PGC gyhoeddi disgrifiad clir o gyfyngiadau a manteision y driniaeth a gynigir gan gofrestryddion.
Dyddiad cau - Ionawr 2025