Rhwydwaith Proffesiynol Gweithwyr Adsefydlu
Ewch i'r wefan: https://www.rwpn.org.uk/
Mae’r Rhwydwaith Proffesiynol Gweithwyr Adsefydlu (RWPN) yn gorff proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Adsefydlu Golwg ac Arbenigwyr Cymhwyso. Ei ddiben yw: gosod a chynnal safonau proffesiynol ar gyfer y gweithlu i'w diogelu a'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw; hyrwyddo gwerth adsefydlu golwg ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall; a chefnogi'r gweithlu i gyflawni eu rôl o ddydd i ddydd trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chyfleoedd dysgu.
Ar achrediad cychwynnol yr RWPN, cyhoeddodd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol nifer o Amodau ar ei achrediad. Pan ystyriwyd y dystiolaeth ar gyfer yr Amodau hyn am y tro cyntaf ym mis Medi 2023, canfuom mai dim ond yn rhannol y cyflawnwyd Amodau 7, 8, 9 a 12, a phenderfynwyd eu hailgyhoeddi, wedi’u rhifo o’r newydd fel Amodau 1 i 4.
Ym mis Mai 2024 canfuom fod y pedwar Amod wedi'u bodloni. Gallwch ddarllen ein hadroddiad am hyn yma .