Cyngor y DU ar gyfer Seicotherapi

Ewch i'r wefan: https://www.psychotherapy.org.uk/

Mae Cyngor Seicotherapi y DU (UKCP) yn sefydliad aelodaeth ac yn elusen gofrestredig sy'n dal cofrestrau cenedlaethol ar gyfer seicotherapyddion, seicotherapyddion sy'n gymwys i weithio gyda phlant a phobl ifanc a chynghorwyr seicotherapiwtig.

Fel rhan o'i ymrwymiad i amddiffyn y cyhoedd, mae'n gweithio i wella mynediad at seicotherapi, i gefnogi a lledaenu ymchwil, i wella safonau ac i ymateb yn effeithiol i gwynion yn erbyn ei aelodau.

Pan wnaethom adnewyddu achrediad yr UKCP , gwnaethom gyhoeddi pedwar Amod gyda therfynau amser ar gyfer gweithredu. Byddwn yn diweddaru statws yr Amodau maes o law.

 

Amodau - Safon Dau

  1. Dylai’r UKCP sicrhau bod ei feini prawf cofrestru wedi’u nodi’n glir yn y wybodaeth y mae’r UKCP, a’i OMs yn ei chyhoeddi. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am yr hyn y gall ymgeiswyr ei ddisgwyl o'r broses llwybr cyfwerthedd, a pha feini prawf/egwyddorion arweiniol fydd yn sail i benderfyniadau.
  2. Dylai’r UKCP nodi polisi sy’n nodi rôl yr UKCP, a’i OMs, mewn apeliadau cofrestru. Dylai’r UKCP sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i gofrestreion trwy ei wefan ei hun, a gwefan ei OMs.
  3. Dylai’r UKCP ymgorffori IDau Unigryw yn ei gofrestr, fel y gellir adnabod unigolion yn gywir. Dylid darparu hefyd y math o gymhwyster y mae'r unigolyn wedi'i gwblhau i gael mynediad i'r Gofrestr.
  4. Dylai’r UKCP ei gwneud yn gliriach i’r cyhoedd weld pa gofrestreion sy’n destun ataliad dros dro.

Dyddiad cau - Asesiad blynyddol nesaf