Apeliwyd yn erbyn canlyniadau penderfyniadau addasrwydd i ymarfer

Pan fyddwn yn cyfeirio achos i'r Llys, rydym yn nodi'r sail ar gyfer ein hapêl ac yn aros i'r achos gael ei restru ar gyfer gwrandawiad. Weithiau, ar ôl i ni gyfeirio achos i’r Llys, rydym wedi gallu dod o hyd i ffyrdd o ddiogelu’r cyhoedd heb fod angen gwrandawiad Llys, yn unol â’n polisi Dull Amgen o Ddatrys Anghydfodau.

Er enghraifft, weithiau gallwn gytuno gyda'r rheolydd a'r gweithiwr proffesiynol unigol beth ddylai'r canlyniad fod a chael cymeradwyaeth y Llys i'r cytundeb hwnnw (mewn dogfen o'r enw 'Gorchymyn Cydsyniad') heb fod angen gwrandawiad Llys.

Os bydd achos yn symud ymlaen i wrandawiad Llys, byddwn yn mynychu'r Llys gyda'n cyfreithwyr ac yn cyflwyno ein hachos. Gall y barnwr:

  • gwrthod ein hapêl
  • caniatáu ein hapêl a dileu’r penderfyniad perthnasol
  • rhoi penderfyniad arall yn lle’r penderfyniad gwreiddiol, neu
  • anfon yr achos yn ôl i bwyllgor addasrwydd i ymarfer y rheolydd i'w ailystyried.

Defnyddiwch yr adran hon i ddod o hyd i achosion yr ydym wedi apelio yn eu cylch, copïau o ddyfarniadau a Gorchmynion Cydsynio, neu ddolenni iddynt.

Dyfarniadau a gorchmynion llys

Gorchmynion Cydsynio