Rydym yn helpu i ddiogelu’r cyhoedd drwy ein gwaith gyda sefydliadau sy’n cofrestru ac yn rheoleiddio pobl sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn sefydliad annibynnol, yn atebol i Senedd y DU. Mae ein hadroddiadau yn helpu'r Senedd i fonitro a gwella amddiffyniad y cyhoedd. Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn defnyddio ein hadolygiadau perfformiad i gwestiynu'r rheolyddion rydym yn eu goruchwylio am eu gwaith. Rydym hefyd yn annog sefydliadau i wella’r ffordd y maent yn cofrestru ac yn rheoleiddio ymarferwyr iechyd a gofal yn y DU.
Mae ein gwerthoedd wrth galon popeth a wnawn
Ein gwerthoedd sefydliadol yw: uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwerthoedd wrth wraidd ein gwaith.
Ein cefndir
Arweiniodd Adroddiad Kennedy i fethiannau mewn llawdriniaeth ar y galon i blant yn Ysbyty Brenhinol Bryste ym mis Gorffennaf 2001 at ddiwygiadau sylweddol. Roedd hyn yn cynnwys creu'r Cyngor Rheoleiddio Gweithwyr Iechyd Proffesiynol (ein corff rhagflaenol), i gydlynu'r rheolyddion a sicrhau mwy o ffocws ar fudd y cyhoedd.
Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 â newid strwythurol eang yn y sector gofal iechyd yn ogystal â nifer o newidiadau sylweddol i’r CHRE, drwy:
- newid ein henw i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA)
- rhoi annibyniaeth ariannol i ni oddi wrth y llywodraeth, ar ffurf ardoll statudol ar y rheolyddion a oruchwyliwn, a
- rhoi pwerau mewn perthynas â phenodiadau cynghorau rheoleiddiwr a Chofrestrau Achrededig.
Darllenwch ein tudalen Ffordd at Ddiwygio i ddysgu mwy am sut a pham y cyrhaeddom y sefyllfa bresennol.
Ein hamcanion strategol
Ein hamcanion strategol yw:
- Diogelu'r cyhoedd trwy oruchwylio rheoleiddio a chofrestru yn hynod effeithiol
- Cynnal perthnasoedd cryf gyda rheolyddion statudol, sefydliadau sydd â chofrestrau achrededig a rhanddeiliaid eraill i wella effaith ein gwaith
- Bod â thîm medrus, amrywiol a brwdfrydig sy'n falch o weithio yn yr Awdurdod ac sy'n ymroddedig i gyflawni ein hamcanion
- Ceisio gwelliant parhaus yn y ffordd yr ydym yn rhedeg yr Awdurdod a'n gwerth am arian i gofrestreion, cleifion a'r cyhoedd
Rydym yn esbonio pob un o'n hamcanion strategol yn fanylach yma .
Sut i gysylltu â ni
Dysgwch fwy am sut i gysylltu â ni yma .
Gallwch hefyd gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost .