Adroddiadau Penderfyniadau Cofrestrau Achrededig
Ein cylch asesu ar gyfer Cofrestrau Achrededig
Cyflwynwyd cylch asesu newydd gennym yn lle'r asesiad blynyddol llawn blaenorol. Mae pob Cofrestr bellach yn cael asesiad llawn yn erbyn ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig unwaith bob tair blynedd. Rydym yn cynnal gwaith monitro blynyddol rhwng yr asesiadau llawn, i wirio a oes unrhyw newidiadau sylweddol. Mae ein penderfyniadau achredu yn rhoi gwybodaeth am ein hasesiadau diweddaraf o bob cofrestr a sut maent yn bodloni ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn diweddaraf ar gyfer pob Cofrestr ar y dudalen hon - lawrlwythwch yr adroddiad ar gyfer y Gofrestr Achrededig y mae gennych ddiddordeb ynddi.
Adroddiadau Cofrestrau Achrededig a'r gwahaniaethau rhyngddynt
Rydym yn cyhoeddi sawl math o adroddiadau yn dibynnu ar ble yn y cylch o wneud cais am achrediad neu pan fydd cofrestr yn adnewyddu eu hachrediad, gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion isod yn ogystal ag opsiynau i lawrlwytho'r adroddiadau.
Penderfyniadau Achredu Cychwynnol/adroddiadau monitro blynyddol ac asesiadau llawn
Pan fyddwn yn fodlon bod Cofrestr wedi bodloni Safon Un, byddwn wedyn yn asesu yn erbyn y Safonau sy'n weddill. Rhaid i gofrestr fodloni ein holl Safonau i gael y Marc Safon ac ymuno â'r rhaglen. Yna, unwaith y bydd cofrestr wedi derbyn y Marc Safon, rydym yn cynnal adolygiadau monitro blynyddol ac yn gwirio na fu unrhyw newidiadau arwyddocaol. Bob tair blynedd rydym yn cynnal asesiad llawn a gallwch ddarllen ein hasesiad llawn diweddaraf ar gyfer pob Cofrestr Achrededig isod. Pan fyddwn yn cynnal asesiad llawn/achrediad cychwynnol, rydym hefyd yn cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb.
Asesiadau Safon Un Cychwynnol
Pan fydd Cofrestr yn mynegi diddordeb mewn dod yn rhan o'r rhaglen am y tro cyntaf ac yn gwneud cais am achrediad, rydym yn cynnal asesiad cychwynnol yn erbyn Safon Un. Mae angen i gofrestrau sydd â diddordeb mewn ymuno â'r rhaglen fodloni Safon Un cyn y gallwn asesu yn erbyn sut maent yn bodloni'r Safonau sy'n weddill (Dau i Naw). Mae Safon Un yn gwirio cymhwysedd o dan ein deddfwriaeth, ac a yw achrediad er budd y cyhoedd. Gall cofrestrau sydd â diddordeb mewn ymuno wneud cais am asesiad rhagarweiniol yn erbyn Safon Un cyn mynd ymlaen i gyflwyno cais llawn.
Hysbysiadau o newid
Rhaid i gofrestr ddweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol y mae wedi’u gwneud neu gynlluniau i’w gwneud a allai effeithio ar ba un a yw’n bodloni ein Safonau. Rydym yn ystyried y newidiadau hyn drwy ein proses Hysbysiad o Newid. Ni fydd angen hysbysiad o newid ar gyfer pob newid ac mewn rhai achosion, bydd yn ddigon dweud wrthym amdanynt naill ai yn eu gwiriad blynyddol, neu yn eu hasesiad adnewyddu llawn. Mae newidiadau sy'n gofyn am hysbysiad o gais am newid yn cael eu hystyried gan Banel Achredu. Gallwch ddarllen yr adroddiadau hyn isod.
Penderfyniadau i beidio ag achredu
Rydym hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ar gyfer Cofrestrau sydd wedi gwneud cais ond lle rydym wedi penderfynu peidio ag achredu.
Adroddiadau Adolygu Amodau
Weithiau byddwn yn cyhoeddi amodau pan fyddwn yn achredu cofrestr neu'n adnewyddu ei hachrediad. Rhaid bodloni amodau i ennill (ail)achrediad o fewn amserlen benodedig. Pan fydd yr amodau hyn wedi'u bodloni, rydym yn diweddaru tudalen y Gofrestr ac yn cyhoeddi adolygiad byr. Mae manylion amodau ac adroddiadau adolygu ar dudalen y Gofrestr unigol.
Dod o hyd i Gofrestr AchrededigPenderfyniadau Achredu Cychwynnol/Asesiadau Llawn
Academi Gwyddor Gofal Iechyd
Cymdeithas Seicotherapi Plant