Prif gynnwys

Diweddariadau Grŵp Goruchwylio Annibynnol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

09 Ebrill 2025

Sefydlwyd Grŵp Goruchwylio Annibynnol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) ym mis Medi 2024. Gofynnwyd i ni gan y Llywodraeth sefydlu'r Grŵp hwn i oruchwylio a chefnogi ymateb y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i bryderon difrifol ynghylch ei ddiwylliant a'i lywodraethu.

Pam fod angen y Grŵp?

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddwyd canfyddiadau Adolygiad Diwylliant Annibynnol o’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Cynhaliwyd yr adolygiad gan Nazir Afzal OBE a Rise Associates, a gomisiynwyd gan yr NMC ar ôl i bryderon difrifol am ei ddiwylliant gael eu codi gan chwythwr chwiban yn 2023. Canfu’r adolygiad dystiolaeth o fethiannau diogelu a bod pobl sy’n gweithio yn y sefydliad wedi profi hiliaeth a mathau eraill o wahaniaethu a bwlio. 

Mae'r NMC wedi derbyn holl argymhellion yr adolygiad ar gyfer gwella ac wedi ymrwymo i raglen o newid diwylliant. Bydd Grŵp Goruchwylio Annibynnol yr NMC yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yr NMC, yn craffu ar effaith y mesurau y mae’n eu cyflwyno i wella ei ddiwylliant a’i berfformiad, ac yn rhoi mewnwelediad a chyngor ar unrhyw gamau pellach sydd eu hangen. 

Mae’r NMC hefyd wedi comisiynu dau ymchwiliad annibynnol ychwanegol i’r pryderon chwythu’r chwiban. Dan arweiniad Ijeoma Omambala KC, mae’r cyntaf o’r rhain yn edrych i mewn i’r modd y mae’r sefydliad wedi delio â’r achosion addasrwydd i ymarfer a godwyd trwy bryderon chwythu’r chwiban a llwybrau eraill. Mae'r ail yn edrych i mewn i'r modd yr ymdriniodd y sefydliad â'r datgeliadau, gan gynnwys a gafodd y chwythwr chwiban ei drin yn deg. Mae’r NMC wedi cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliadau hyn.

Ym mis Gorffennaf 2025, hysbyswyd yr NMC gan Ijeoma Omambala KC na fyddai'n gallu cyflwyno'r adroddiadau o fewn yr amserlenni disgwyliedig. Penderfynodd yr NMC ailgomisiynu'r adolygiadau gyda'r bwriad o gyhoeddi'r adroddiadau yng nghanol yr hydref 2025. Bydd yr adolygiad i'r ffordd y mae'r NMC wedi ymdrin â'r achosion addasrwydd i ymarfer a godwyd trwy bryderon chwythu'r chwiban bellach yn cael ei gwblhau gan Victoria Butler-Cole KC a David Hopkins o 39 Essex Chambers, a bydd yr adolygiad i'r ffordd y mae'r NMC wedi ymdrin â'r datgeliadau chwythu'r chwiban cychwynnol yn cael ei gwblhau gan Lucy McLynn, Partner yn Bates Wells a Chadeirydd yr elusen chwythu'r chwiban Protect. 

Bydd y Grŵp yn ystyried canfyddiadau'r adolygiadau hyn ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi.

Sut bydd y Grŵp yn gweithio?

Mae’r PSA yn darparu’r Cadeirydd a’r Ysgrifenyddiaeth ar gyfer Grŵp Goruchwylio Annibynnol yr NMC sy’n cynnwys yr aelodau canlynol ar hyn o bryd:

  • Duncan Burton (Prif Swyddog Nyrsio, Lloegr)
  • Kate Brintworth (Prif Swyddog Bydwreigiaeth, Lloegr)
  • Anne Armstrong (Prif Swyddog Nyrsio, yr Alban)
  • Justine Craig (Prif Swyddog Bydwreigiaeth, yr Alban)
  • Sue Tranka (Prif Swyddog Nyrsio, Cymru)
  • Karen Jewell (Prif Swyddog Bydwreigiaeth, Cymru)
  • Maria McIlgorm (Prif Swyddog Nyrsio, Gogledd Iwerddon)
  • Caroline Keown (Prif Swyddog Bydwreigiaeth, Gogledd Iwerddon)
  • Deborah Sturdy (Prif Nyrs Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC)
  • Gail Adams (cynrychiolaeth cofrestreion Unsain)
  • Anne Carvalho (cynrychiolaeth staff NMC Unsain)
  • Nicola Ranger (Coleg Brenhinol y Nyrsys)
  • Gill Walton (Coleg Brenhinol y Bydwragedd)
  • Phil Harper (DHSC)
  • Ian Owen (Llywodraeth Cymru)
  • Peter Barbour (Adran Iechyd Gogledd Iwerddon)
  • Ron Barclay-Smith (Cadeirydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth)
  • Paul Rees MBE (Prif Weithredwr a Chofrestrydd yr NMC)
  • Colette Howarth (Cyd-Gadeirydd Fforwm Gweithwyr yr NMC)
  • Yr Athro Habib Naqvi (Prif Weithredwr Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG - Arbenigwr)
  • Dr Jayne Chidgey-Clark (Gwarcheidwad Cenedlaethol dros Ryddid i Siarad yn y GIG yn Lloegr - Arbenigwr)
  • Steph Lawrence (Prif Weithredwr Sefydliad Nyrsio'r Frenhines – Arbenigwr)
  • Wendy Olayiwola (Arweinydd Mamolaeth Cenedlaethol dros Gydraddoldeb, GIG Lloegr ac Eiriolydd Mamolaeth Proffesiynol - Arbenigwr)
  • Helen Hughes (Prif Weithredwr Dysgu Diogelwch Cleifion – Arbenigwr)
  • Rachel Power (Prif Weithredwr Cymdeithas y Cleifion - Arbenigwr)
  • Ben Eaton (Cyfarwyddwr Strategol, Llais - Arbenigwr)
  • Derek Barron (40 mlynedd o brofiad fel nyrs yn yr Alban, gan gynnwys wyth mlynedd mewn gofal cymdeithasol, ac aelod o Grŵp Cynghori Strategol Proffesiynol yr NMC - Arbenigwr)
  • Alan Clamp (Prif Weithredwr, Awdurdod Safonau Proffesiynol)
  • Amanda Partington-Todd (Cyfarwyddwr Dros Dro Rheoleiddio ac Achredu, Awdurdod Safonau Proffesiynol)

Cyhoeddir nodiadau o'r holl gyfarfodydd uchod.