Prif gynnwys
Gwerthusiad o'n dull newydd o asesu rheoleiddwyr yn erbyn ein Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
16 Mai 2025
Yn 2023/24, cyflwynwyd dull newydd o asesu rheoleiddwyr yn erbyn ein Safonau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Safon 3 o'n Safonau Rheoleiddio Da)
Roedden ni eisiau:
- codi ein disgwyliadau ar gyfer cyrraedd y Safon hon, a oedd wedi'i gosod ar far cymharol isel pan gafodd ei chyflwyno yn 2019
- gwneud ein hasesiadau'n fwy tryloyw a chyson, gan adeiladu ar y gwelliannau a wnaethom i'n prosesau pan gyflwynwyd ein dull newydd o adolygu perfformiad o 2021/22
- gwneud mwy i gefnogi rheoleiddwyr i wneud gwelliannau pellach.