Adroddiad ar ymgynghoriad ar Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer Cofrestrau Achrededig

05 Mai 2023

Yr adroddiad yn amlinellu ein dadansoddiad a chanlyniadau ein hymgynghoriad ar gyflwyno Safon EDI newydd i'n Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig.

Am beth oedd yr ymgynghoriad?

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag ychwanegu Safon newydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) at ein Safonau presennol ar gyfer Cofrestrau Achrededig .

Pam y bu i ni ymgynghori

Mae ein cynllun gweithredu EDI yn ein hymrwymo i wneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae anghydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn bryder i lawer.

Beth oedd y canlyniad?

Mae’r adroddiad yn amlinellu ein dadansoddiad o’r ymatebion a gawsom. Cawsom 95 o ymatebion i’r ymgynghoriad gyda’r mwyafrif yn cefnogi cyflwyno Safon EDI newydd, er bod gan rai amheuon ynghylch y costau posibl ar gyfer cofrestrau a’r amseriad ar gyfer gweithredu’r Safon newydd.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Gweler yr holl gyhoeddiadau