Yn ein hymateb i'r ymgynghoriad hwn gan Adran Iechyd Gogledd Iwerddon, rydym yn amlinellu ein cefnogaeth i'r Fframwaith Bod yn Agored a'i nodau i ddarparu gofal diogel, effeithiol ac o ansawdd. Mae lefelau agoredrwydd a chydrannau diwylliant (strwythurau ffurfiol, ymddygiadau derbyniol a chredoau cytûn) yn darparu strwythur cynhwysol a hygyrch i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu a gwreiddio diwylliannau arferol o agoredrwydd er mwyn caniatáu i staff ymateb mewn modd agored a phriodol pan fydd pethau'n mynd o chwith.