Awdurdod yn cyhoeddi penodiad Juliet Oliver yn aelod Bwrdd newydd

09 Ionawr 2023

Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad Juliet Oliver i Fwrdd yr Awdurdod. Juliet Oliver yw Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Gweithredol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Dywedodd Caroline Corby, Cadeirydd yr Awdurdod:

'Rwy'n falch o groesawu Juliet i Fwrdd yr Awdurdod. Bydd y cyfoeth o brofiad a ddaw gyda hi, yn enwedig ym maes cyfraith a pholisi rheoleiddio yn ategu'r cymysgedd o sgiliau a phrofiad sydd gan ein Bwrdd presennol.'

Mae Bwrdd yr Awdurdod yn gosod ein cyfeiriad strategol, yn cymeradwyo ein cynlluniau strategol a busnes, ein cyllideb ac yn monitro ein perfformiad.

Ychwanegodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod:

'Rwy'n falch iawn y bydd Juliet yn ymuno â'n Bwrdd. Bydd ei gwybodaeth, ei sgiliau a'i harbenigedd a'i chefndir yn amhrisiadwy i'r Awdurdod. Mae Juliet yn ymuno â ni ar adeg ddiddorol iawn – rydym newydd gyhoeddi ein hadroddiad Gofal mwy diogel i bawb ac ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein Cynllun Strategol drafft . Hoffwn hefyd achub ar y cyfle i ddiolch i'n haelodau Bwrdd sy'n gadael Antony Townsend a Renata Drinkwater sydd wedi cyfrannu cymaint at symud ein gwaith yn ei flaen dros yr wyth mlynedd diwethaf.'

Meddai Juliet Oliver:

'Rwy'n falch iawn o gael ymuno â'r Awdurdod ar yr adeg dyngedfennol hon i'r sector iechyd ehangach, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Caroline, Alan, y Bwrdd a'r tîm staff.'

Gallwch ddarganfod mwy am ein Bwrdd yma .

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk  

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion