Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad perfformiad diweddaraf o'r GMC
13 Mawrth 2020
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Rydym yn adolygu pob un o'r rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol statudol bob blwyddyn i asesu a ydynt yn bodloni Safonau Rheoleiddio Da . Ar adeg yr asesiad, roedd cofrestr y GMC yn cwmpasu dros 309,700 o feddygon a oedd yn ymarfer yn y Deyrnas Unedig.
Cynhaliom adolygiad wedi'i dargedu o berfformiad y GMC ac rydym yn falch o adrodd ei fod yn parhau i fodloni'r holl Safonau Rheoleiddio Da. Edrychwyd yn arbennig o ofalus ar faterion gan gynnwys ymateb y GMC i ddigwyddiad difrifol o gofrestru twyllodrus, a thegwch ac amseroldeb ei broses Addasrwydd i Ymarfer. Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - GMC 2018/19 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr, Polisi a Safonau
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn rheoleiddio'r proffesiwn meddygol yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant meddygol; ei gwneud yn ofynnol i feddygon ddiweddaru eu sgiliau trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 30 Medi 2019, roedd y GMC yn gyfrifol am gofrestr o 309,782 o feddygon. Ei ffi gadw flynyddol ar gyfer cofrestreion yw £399.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag uniondeb, tryloywder, parch, tegwch ac fel rhan o dîm.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk