Mis Hanes Pobl Dduon: myfyrio ar ein cyfrifoldebau

21 Hydref 2020

Yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, ac wedi’i sbarduno gan amgylchiadau trasig marwolaethau annhymig George Floyd ac eraill, rydym ni yn yr Awdurdod yn myfyrio ar ein cyfrifoldebau i hyrwyddo cydraddoldeb, ac i gefnogi a dathlu amrywiaeth a chynhwysiant.

Yr hyn y mae 2020 wedi’i wneud yn glir yw nad yw’n ddigon condemnio hiliaeth yn unig, rhaid inni ymdrechu’n frwd i gyd-greu diwylliant cadarnhaol a chynhwysol. Yn ein symposiwm rheoleiddio y mis nesaf, byddwn yn trafod ar y cyd â'r rheolyddion a oruchwyliwn, a yw rheoleiddio yn 'rhy wyn' ac yn ystyried tystiolaeth a phrofiad rheolyddion, ni ac eraill. Mae’r rheolyddion a oruchwyliwn wedi bod yn ystyried hyn ac mae rhai eisoes wedi cyhoeddi astudiaethau, gyda’r GMC yn cyhoeddi eu hadroddiad Fair to refer y llynedd i ddeall pam mae cyflogwyr a darparwyr gofal iechyd yn fwy tebygol o atgyfeirio meddygon o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig a’r rhai sydd wedi ennill eu cymhwyster meddygol sylfaenol y tu allan i'r DU. Mae’r NMC yn adeiladu ar ganfyddiadau eu hadroddiad yn 2017 yn y maes hwn, gyda phrosiect newydd i ymchwilio i sut y gall nodweddion gwarchodedig gan gynnwys ethnigrwydd effeithio ar fynediad, profiadau a chanlyniadau i weithwyr proffesiynol sy’n mynd drwy eu prosesau rheoleiddio.

Yn yr Awdurdod, un o'n gwerthoedd craidd yw tryloywder. Ni fyddem yn driw i'r gwerth hwn pe na baem hefyd yn fodlon archwilio a herio ein perfformiad ein hunain.

Er ei bod yn wir bod gennym ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), rydym yn gwybod y gallwn wella bob amser. Rydym felly wedi sefydlu prosiect EDI i'w gefnogi gan gynghorydd profiadol yn y maes hwn i adolygu ein polisïau a'n prosesau, ac i ddarparu ffocws annibynnol, arbenigol ar asesu gwaith yr Awdurdod ac i roi cyngor i ni ar arfer da. Fel rhan o ddysgu personol a myfyrio, mae'r grŵp prosiect yn hyrwyddo rhannu deunyddiau ac adnoddau, ac yn bwriadu cymryd rhan mewn grwpiau trafod rheolaidd.

Yn gynharach eleni, fe wnaethom hefyd gynnal hyfforddiant ar ragfarn anymwybodol, er ei bod yn bwysig cydnabod nad yw rhagfarn anymwybodol yn rhywbeth sy'n cael ei unioni'n gyflym - dim ond dechrau proses barhaus o wella hunanymwybyddiaeth a rhagfarn anddysgu yw hyfforddiant. Yn ddiweddar, fe wnaethom hefyd gynnal gweithdy gyda'n staff i archwilio bregusrwydd. Un o’r tri amcan strategol yn ein Strategaeth Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a gyhoeddwyd fis diwethaf yw canolbwyntio sylw rheoleiddiol yn briodol ar amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, gan gynnwys o fewn safonau, canllawiau, addysg a hyfforddiant, ac addasrwydd i ymarfer.

Ym mhopeth a wnawn wrth symud ymlaen, byddwn yn ystyried sut y gallem gyfrannu at wella cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn gweithredu ar hynny. Gyda’n gilydd, mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn nodi ac yn dileu gwahaniaethu ac yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod newid cadarnhaol. Byddwn yn meddwl yn galed am yr hyn y gallwn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn well ar gyfer yr holl staff; ac arsylwi ar yr hyn y mae sefydliadau eraill yn ei wneud er mwyn dysgu a gwella. 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion