Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn ymgynghori ar Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer Cofrestrau Achrededig
25 Hydref 2022
Mae'r PSA yn ymgynghori ar ychwanegu Safon newydd ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i'w Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig . Mae’r ymgynghoriad yn agor heddiw ac yn cau ar 17 Ionawr 2023.
Mae ein cynllun gweithredu EDI yn ein hymrwymo i wneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb. Mae anghydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn bryder i lawer. Credwn y bydd ychwanegu Safon EDI benodol ar gyfer Cofrestrau Achrededig yn helpu i ysgogi gwelliant.
Sut i ymateb
Rydym yn croesawu barn ar ein cynigion, erbyn 17 Ionawr 2023 .
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad yma lle gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen ymateb neu ddod o hyd i ddolen i’n harolwg ar-lein yn y Gymraeg a’r Saesneg.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'r dull a gymerwn ar gael yma .