Prif gynnwys
Diweddariad ar ein hadolygiad o berfformiad yr NMC ar gyfer 2023/24
12 Mawrth 2025
Rydym yn adolygu ac yn adrodd ar berfformiad y 10 rheolydd proffesiynol iechyd a gofal rydym yn eu goruchwylio yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da.
Roedd ein hadolygiad cyfnodol ar gyfer 2023/24 o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) i fod i gael ei gyhoeddi'n wreiddiol ym mis Medi 2024. Yn hydref 2023 comisiynodd yr NMC dri adolygiad annibynnol i ymchwilio i faterion a godwyd mewn datgeliadau chwythu'r chwiban.
Er mwyn caniatáu i’n hadolygiad o’r NMC gynnwys y wybodaeth berthnasol hon, penderfynasom aros am ganlyniadau’r tri adolygiad a’u cymryd i ystyriaeth ar gyfer ein hadolygiad perfformiad 2023/24.
Mae’r cyntaf o’r tri adolygiad annibynnol, yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol (ICR) wedi’i gyhoeddi
Nid ydym wedi gweld canlyniad y ddau adolygiad arall eto. Mae'r ddau yn cael eu harwain gan Ijeoma Omambala KC: un i ymdriniaeth yr NMC o'r achosion addasrwydd i ymarfer a godwyd trwy bryderon y chwythwr chwiban, a'r llall i'r modd yr ymdriniodd yr NMC â datgeliadau chwythu'r chwiban.
Rydym wedi ailystyried ein hymagwedd oherwydd y newid sylweddol yn yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r adolygiadau annibynnol. Credwn ei fod er budd y cyhoedd i ni adrodd ar berfformiad yr NMC mewn modd amserol. Felly, byddwn yn cwblhau adolygiad eleni ac yn cyhoeddi ein hadroddiad erbyn mis Mehefin 2025 heb aros mwyach am y dystiolaeth o adolygiadau Omambala KC. Wrth asesu rheolydd, mae'r dyfarniadau a wnawn yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i ffurfio darlun cyffredinol o berfformiad. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth yr ydym eisoes wedi’i chasglu i wneud penderfyniadau, a byddwn yn glir yn ein hadroddiad lle rydym yn disgwyl y gallai tystiolaeth o’r ymchwiliadau annibynnol parhaus fod yn berthnasol.
Rydym yn glir bod adolygiadau Omambala yn bwysig ac yn debygol o fod yn berthnasol i'n barn am berfformiad yr NMC. Byddwn yn eu hystyried yn fanwl pan fyddant ar gael, gan gynnwys penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o adrodd ar yr hyn y maent yn ei ddweud wrthym ac a oes angen cymryd camau pellach gan y PSA.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fonitro perfformiad yr NMC yn agos. Mae hyn yn cynnwys drwy Grŵp Goruchwylio Annibynnol yr NMC. Fe wnaethom sefydlu’r Grŵp hwn ym mis Medi 2024 ar gais Llywodraeth y DU i oruchwylio a chefnogi ymateb yr NMC i’r pryderon difrifol ynghylch ei ddiwylliant a’i lywodraethu.