Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad yr NMC ar gyfer 2018/19
14 Ebrill 2020
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth . Rydym yn adolygu pob un o'r rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol statudol bob blwyddyn i asesu a ydynt yn bodloni'r Safonau Rheoleiddio Da . Mae'r adolygiad hwn yn edrych ar berfformiad yr NMC rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 (a chafodd ei ddrafftio cyn i bandemig Covid-19 daro'r DU). Bryd hynny, roedd cofrestr yr NMC yn cwmpasu bron i 700,000 o nyrsys a bydwragedd yn ymarfer yn y Deyrnas Unedig a chymdeithion nyrsio a oedd yn ymarfer yn Lloegr.
Gwnaethom gynnal adolygiad wedi'i dargedu o berfformiad yr NMC, gan gynnwys adolygiad o sampl o achosion addasrwydd i ymarfer. Mae’r NMC wedi bodloni 22 o’r 24 o Safonau Rheoleiddio Da. Nid yw wedi bodloni dwy o’n Safonau Addasrwydd i Ymarfer. Ni chyflawnwyd y ddwy Safon hyn, sy’n ymwneud â thryloywder a thegwch ei phrosesau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bleidiau, yn ein hadroddiad y llynedd. Mae’r NMC wedi gwneud gwaith sylweddol i fynd i’r afael â’r meysydd pryder a nodwyd gennym. Fodd bynnag, yn y cyfnod dan sylw, ni welsom dystiolaeth eto o effaith y mesurau y mae wedi’u cymryd.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - NMC 2018/19 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Polisi a Safonau
Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030 | E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (yr NMC) yn rheoleiddio’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth yn y Deyrnas Unedig a chymdeithion nyrsio yn Lloegr. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio; ei gwneud yn ofynnol i gofrestreion gadw eu sgiliau'n gyfredol trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 31 Mawrth 2019, roedd yr NMC yn gyfrifol am gofrestr o 698,237 o nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Ei ffi gadw flynyddol ar gyfer cofrestreion yw £120.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk