Awdurdod Safonau Proffesiynol yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno Comisiynydd Diogelwch Cleifion

15 Ionawr 2021

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gyflwyno rôl y Comisiynydd Diogelwch Cleifion drwy ei ddiwygiad i’r Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol.

Byddai hyn yn cyflwyno argymhelliad allweddol o'r Adolygiad Diogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol Annibynnol ('Adolygiad Cumberlege') yr ydym yn ei gefnogi. Yn anffodus, mae nifer o ymholiadau, hyd at ac yn cynnwys Adolygiad Cumberlege, wedi dod i’r casgliad nad yw lleisiau cleifion wedi’u clywed o fewn iechyd a gofal, ac felly bod angen hyrwyddwr arnynt.

Amlygodd yr Adolygiad system gofal iechyd 'ddatgysylltiedig, seilo'. Anogwn y Llywodraeth wrth weithredu’r rôl i sicrhau ei bod yn mynd i’r afael â’r cymhlethdod yn hytrach nag yn ychwanegu ato. Os yw cylch gorchwyl y rôl i gael ei gyfyngu i feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, yna mae'n hanfodol bod gan y Comisiynydd Diogelwch Cleifion ddyletswydd i gysylltu'n agos â gwaith cyrff eraill sy'n ymwneud â diogelwch cleifion ledled y DU.

Yn fwy eang rydym yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau nad yw’n colli golwg ar ganfyddiadau ehangach Adolygiad Cumberlege sy’n ymwneud â diogelwch cleifion. Rhaid i hyn ymestyn y tu hwnt i’r Bil hwn i bob maes o bolisi’r Llywodraeth, gan gynnwys y diwygiadau hir-ddisgwyliedig i reoleiddio gweithwyr gofal iechyd y mae’r Llywodraeth wedi ailddatgan ei hymrwymiad iddynt yn ddiweddar. Cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a ddisgwylir yn ddiweddarach eleni, mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn cydnabod, wrth leihau biwrocratiaeth a chyflwyno mwy o hyblygrwydd i reoleiddwyr proffesiynol, na ddylai fod unrhyw leihad mewn goruchwyliaeth ac atebolrwydd i gynnal diogelwch cleifion.

Mae ein hymateb llawn i Adolygiad Cumberlege i'w weld yma .

Mae ein datganiad yn ymateb i gyhoeddiad y Llywodraeth ar ddiwygio rheoleiddio proffesiynol fel rhan o Chwalu Biwrocratiaeth yma

DIWEDD

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu. Mae yna hefyd set o Safonau Cyffredinol.
  4. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  5. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  6. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  7. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  8. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion