Cyhoeddodd Caroline Corby fel Cadeirydd newydd yr Awdurdod

25 Ionawr 2021

Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad Caroline Corby yn Gadeirydd newydd yr Awdurdod. Gwnaethpwyd y penodiad gan y Cyfrin Gyngor a bydd Caroline yn dechrau yn ei swydd ar 1 Chwefror 2021. Bydd yn olynu Antony Townsend sydd wedi bod yn Gadeirydd Dros Dro yr Awdurdod ers Medi 2020 ac a fydd yn parhau fel aelod o’r Bwrdd.

Ar hyn o bryd mae Caroline yn Gadeirydd Bwrdd Parôl Cymru a Lloegr, ac yn Gadeirydd One Housing. Mae Caroline hefyd yn Aelod Bwrdd yn Cafcass ac yn Gadeirydd Panel ar gyfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC); bydd yn rhoi'r gorau i swyddi Cafcass a'r NMC pan fydd yn dechrau yn ei rôl yn yr Awdurdod. Mae gan Caroline brofiad blaenorol helaeth mewn rolau anweithredol ac ar bwyllgorau addasrwydd i ymarfer rheoleiddwyr.

Caroline fydd Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod sy'n gosod ein cyfeiriad strategol, yn cymeradwyo ein cynllun busnes a chyllideb flynyddol, ac yn monitro ein perfformiad.

Dywedodd Caroline Corby: 

 'Rwy'n falch iawn o fod yn ymuno â'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Bydd yn fraint gwasanaethu fel Cadeirydd ac edrychaf ymlaen at weithio gyda thîm o aelodau ymroddedig ac arbenigol o’r Bwrdd a staff ar flaenoriaethau presennol y sefydliad ac yn y dyfodol.

Mae'r Awdurdod yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu'r cyhoedd drwy godi safonau o ran cofrestru a rheoleiddio pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw'r heriau yn y sector iechyd erioed wedi bod yn fwy ac rwy'n gobeithio gallu dod â'm profiad blaenorol mewn arweinyddiaeth er budd cleifion a'r cyhoedd.'

Dywedodd Anthony Townsend: 

 'Bu'n fraint bod yn Gadeirydd Dros Dro yr Awdurdod dros y pum mis diwethaf. Bydd Caroline yn arwain Bwrdd talentog a thîm o staff galluog ac uchel eu cymhelliant. Dymunaf bob llwyddiant iddi.'

Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr :

'Rwy'n falch iawn y bydd Caroline yn arwain ein Bwrdd. Bydd ei gwybodaeth, ei sgiliau a’i harbenigedd fel Cadeirydd yn amhrisiadwy mewn cyfnod sy’n argoeli i fod yn newid ac yn heriol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Caroline i symud y sefydliad yn ei flaen ac i gyflawni ein rôl hanfodol yn amddiffyn y cyhoedd.'

Gallwch ddarganfod mwy am ein Bwrdd yma . 

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 Cyswllt:

Christine Braithwaite

E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk

E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu. Mae yna hefyd set o Safonau Cyffredinol.
  4. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  5. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  6. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  7. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  8. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion