Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Mae’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn rheoleiddio gweithwyr iechyd, seicolegol a gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gosod safonau, yn cadw cofrestr, yn sicrhau ansawdd addysg ac yn ymchwilio i gwynion. Maent yn rheoleiddio:
- Therapyddion celf
- Gwyddonwyr biofeddygol
- Ciropodyddion/Podiatryddion
- Gwyddonwyr clinigol
- Dietegwyr
- Dosbarthwyr cymhorthion clyw
- Therapyddion galwedigaethol
- Ymarferwyr adrannau llawdriniaeth
- Orthoptyddion
- Parafeddygon
- Ffisiotherapyddion
- Seicolegwyr ymarferwyr (gan gynnwys cofrestredig, clinigol, cwnsela, addysg, fforensig, iechyd, galwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff ac eraill)
- Prosthetyddion/Orthotyddion
- Radiograffwyr
- Therapyddion lleferydd ac iaith.
Sut rydym yn goruchwylio'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Rydym yn adolygu perfformiad y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal bob blwyddyn. Rydym yn rhoi ein hadroddiad i'r Senedd ac yn cyhoeddi ein hadroddiad ar ein gwefan. Rydym hefyd yn adolygu pob penderfyniad a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer terfynol y rheolydd.