Prif gynnwys

Atal ac ymateb i gamymddwyn rhywiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol

26 Mai 2026

O fis Medi 2024 i fis Rhagfyr 2025, cynhaliwyd cyfres o weminarau ar ddeall a mynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol o fewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y gweminarau'n ymdrin â gwahanol agweddau ar gamymddwyn rhywiol ac yn anelu at annog dysgu yn ogystal â helpu i nodi beth arall y gellir ei wneud i atal a mynd i'r afael â'r mater.

Rydym wedi crynhoi rhai o'r mewnwelediadau allweddol o'r gweminarau mewn dogfen fer y gallwch ei lawrlwytho gan ddefnyddio'r ddolen isod. Mae'r mewnwelediadau hyn i gefnogi gwaith i wella diwylliannau sefydliadol a hyrwyddo diogelwch rhywiol i bawb – i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr. Efallai y byddwch yn ei chael hi'n ddefnyddiol darllen rhai o'r cyflwyniadau o'r gyfres gweminarau ochr yn ochr â hyn yn ogystal ag adnoddau eraill sydd i gyd wedi'u cysylltu isod.