Cyfres gweminar ar fynd i'r afael â chamymddwyn rhywiol mewn gofal iechyd

15 Tachwedd 2024

Rydym wedi lansio cyfres o weminarau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â chamymddwyn rhywiol gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Mae’r gweminarau’n cynnwys cyflwyniadau dan arweiniad arbenigwyr a thrafodaethau ar wahanol agweddau ar y mater, gan ddod â rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o’r sector, gan gynnwys rheoleiddwyr, Cofrestrau Achrededig, a sefydliadau sy’n cynrychioli cleifion a chofrestryddion.

Mae’r gweminarau’n cynnwys clywed gan y rhai yn y sector sy’n gweithio i fynd i’r afael â chamymddwyn rhywiol, adolygu’r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf, a dysgu o enghreifftiau o sut mae sectorau a gwledydd eraill yn mynd i’r afael â’r broblem i nodi beth arall y gellir ei wneud.

Lansiwyd y gyfres ddechrau mis Medi gyda chyflwyniad ar raglen Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol GIG Lloegr, gan gynnwys eu siarter ar ddiogelwch rhywiol yn y gwaith . Cynhaliwyd gweminar arall ar 24 Medi yn archwilio’r heriau diwylliant o fewn y sector ambiwlans a’r gwaith sy’n cael ei wneud i wella diogelwch rhywiol.

Drwy’r gyfres drafod hon, rydym yn gobeithio hwyluso dysgu a thrafodaeth gadarn ymhlith rhanddeiliaid fel y gallwn, gyda’n gilydd, ddeall y mater yn well, datblygu atebion effeithiol, a chymryd camau ystyrlon ymlaen.

Bydd y trafodaethau hyn yn parhau hyd at Hydref 2025, ac wedi hynny rydym yn bwriadu cynhyrchu adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer cyfraniad rheolyddion yn y maes hwn yn y dyfodol.