Prif gynnwys

Adolygu ein Safonau - trosolwg ac esboniad o'r ymgynghoriad

13 Chwefror 2025

Cyfnod ymgynghori

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ond rydym yn dal i dderbyn cyflwyniadau gan unrhyw un sydd eisoes wedi cysylltu â ni i gytuno ar estyniad . Diolch i bawb sydd eisoes wedi ymateb. Rydym yn dadansoddi'r ymatebion i baratoi adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi.

Pam ydym ni'n adolygu ein Safonau?

Rydym am wirio bod ein Safonau (ar gyfer rheolyddion a Chofrestrau Achrededig) yn addas ar gyfer y dyfodol - eu bod yn mesur y pethau cywir ond, yn bwysicach fyth, yn parhau i ysgogi gwelliant yn y sefydliadau rydym yn eu goruchwylio.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cau am 5pm heddiw ( 8 Mai 2025) . Rydym wedi lansio arolwg i gasglu ymatebion. 

Dyma’ch cyfle i ddylanwadu ar yr hyn rydym yn edrych arno a sut rydym yn ei wneud wrth asesu perfformiad y rheolydd a’r gofrestr wirfoddol. Dyma'ch cyfle i ddweud eich barn wrthym am y Safonau presennol, ac i helpu i lunio'r ffordd yr ydym yn asesu rheolyddion a Chofrestrau Achrededig yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i ddweud wrthym a oes meysydd eraill y dylem fod yn eu hasesu.

Bydd yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a gawn yn cael eu hystyried a'u defnyddio i ddatblygu ein hymagwedd at y dyfodol. Gallai hyn fod drwy gyflwyno Safonau newydd ar feysydd fel diwylliant, llywodraethu neu ddyletswydd gonestrwydd, neu ddileu neu symleiddio safonau cyfredol.

Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad yn y ddogfen trosolwg ac esbonio hon, gan gynnwys y cefndir, y cyd-destun a sut i ymateb.

Rydym hefyd wedi lansio galwad am dystiolaeth i gydredeg â’n hymgynghoriad i gasglu unrhyw ymchwil gyhoeddedig, data neu dystiolaeth ysgrifenedig arall sy’n awgrymu ffyrdd y gallai rheoleiddio a chofrestru proffesiynol wella.