Prif gynnwys
Ymateb y PSA i gyhoeddiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth am oedi pellach ar gyhoeddi adolygiadau Omambala
15 Gorff 2025
Rydym yn siomedig y bydd oedi sylweddol pellach i'r adolygiadau annibynnol nawr. Comisiynwyd yr adolygiadau hyn, a'r Adolygiad Diwylliant Annibynnol (ACA), yn 2023 yn dilyn y datgeliadau chwythu'r chwiban cychwynnol. Cododd yr ACA, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2024, bryderon difrifol ynghylch diwylliant a threfniadau diogelu'r rheoleiddiwr. Mae'r adolygiadau annibynnol pellach, dan arweiniad Ijeoma Omambala KC, yn edrych ar y ffordd y mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) wedi ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer, ac â chwythu'r chwiban.
Roedden ni wedi gohirio amseriad ein hadolygiad o berfformiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer 2023/24 er mwyn iddo allu ystyried adroddiadau Omambala KC. Fodd bynnag, yn wyneb oedi parhaus i'r adroddiadau, penderfynon ni gyhoeddi ein hadolygiad o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth y mis diwethaf . Gwelsom nad oedd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi bodloni saith allan o'n 18 Safon Rheoleiddio Da. Yn unol â'n polisi uwchgyfeirio, rydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ'r Cyffredin i'w gwneud yn ymwybodol o'n pryderon.
Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) wedi dweud y bydd yn ailgomisiynu'r adolygiadau, i'w cwblhau yn yr hydref. O ystyried natur ddifrifol y pryderon, rhaid i'r adolygiadau hyn fod yn gadarn a'u cyflwyno ar amser. Rydym yn disgwyl i'r NMC ddangos ei fod yn gwneud popeth o fewn ei reolaeth i gyflawni hyn. Byddwn yn monitro cynnydd drwy'r Grŵp Goruchwylio Annibynnol , a roddwyd i'r PSA gan Lywodraeth y DU i'w sefydlu a'i gadeirio i ddarparu goruchwyliaeth well o'r NMC yn sgil yr Adolygiad Diwylliant Annibynnol.