Cofrestru
Mae ein pedwar safon sy'n cwmpasu cofrestru yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i reoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig gael cofrestrau cywir a hygyrch, proses gofrestru dryloyw, gymesur ac effeithiol yn ogystal â chymryd camau mewn ymateb i honiadau camarweiniol ynghylch cofrestru a sicrhau bod proses ar waith i sicrhau bod eu cofrestreion yn cynnal eu sgiliau ac yn parhau i fod yn addas i ymarfer. (Rydym yn defnyddio'r term "sefydliad" i gyfeirio at reoleiddwyr a Chofrestrau Achrededig.)
Dychwelyd i'r rhestr lawn o SafonauSafon 8: Y gofrestr gyhoeddus
Beth ydym ni'n ei ddisgwyl?
Mae'r sefydliad yn cynnal cofrestr gyhoeddedig gywir a hygyrch o bob ymarferydd iechyd neu ofal, gan nodi'n glir unrhyw gyfyngiadau ar eu cofrestru. Lle bo'n briodol, mae hyn yn berthnasol i fusnesau a safleoedd sydd wedi cofrestru.
Pam mae'n bwysig?
Fel y gall y cyhoedd, cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cyflogwyr a chydweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal wirio'n hawdd a yw ymarferydd yn gymwys, wedi'i gofrestru, yn gyfredol, wedi'i indemnio, ac yn addas i ymarfer.
Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
- Mae'r wybodaeth am gofrestrwyr yn gywir, yn hygyrch ac yn hawdd dod o hyd iddi.
- Dim ond gwybodaeth y mae sefydliadau yn ei hasesu fel gwybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelu'r cyhoedd sydd ar y gofrestr gyhoeddus.
- Mae cyfyngiadau ar ymarfer wedi'u harddangos yn glir ac yn weladwy i unrhyw un sy'n cyrchu cofnod cofrestr ar gyfer ymarferydd.
- Mae system ar waith ar gyfer diweddaru a sicrhau ansawdd y gofrestr.
Safon 9: Y broses gofrestru
Beth ydym ni'n ei ddisgwyl?
Mae'r sefydliad yn gweithredu proses dryloyw, gymesur, effeithlon a theg i ganiatáu i ymarferwyr addas yn unig, a lle bo'n berthnasol, busnesau neu safleoedd ymuno, aros ar ei gofrestr, a dychwelyd iddi.
Pam mae'n bwysig?
Fel y gall pawb ddeall y broses ar gyfer cofrestru gyda sefydliad a chael hyder bod y broses yn gweithredu'n deg, gan sicrhau mai dim ond ymarferwyr addas sy'n ymuno â'r gofrestr.
Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
- Dim ond pobl sydd â chymwysterau, sgiliau a gwybodaeth addas ac sy'n addas yn broffesiynol all gofrestru gyda sefydliad.
- Dim ond busnesau/safleoedd sy'n bodloni gofynion y rheoleiddwyr sydd ar y gofrestr.
- Gall pawb wybod beth sy'n ofynnol i gofrestru gyda sefydliad, gan gynnwys sut i wneud apêl, ac mae'r broses yn hawdd ei deall.
- Mae'r broses ar gyfer cofrestru gyda sefydliad, ac ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniadau cofrestru, yn deg, yn gymesur ac yn effeithlon.
- Mae penderfyniadau ynghylch cofrestru ac apeliadau wedi'u hegluro'n glir.
Safon 10: Diogelu'r cyhoedd rhag cael eu camarwain ynghylch statws cofrestru
Beth ydym ni'n ei ddisgwyl?
Mae'r sefydliad yn cymryd camau cymesur mewn ymateb i'r risg y bydd pobl yn camarwain y cyhoedd ynghylch eu statws cofrestru.
Pam ei fod yn bwysig?
Fel bod y risg o niwed yn deillio o dderbyn triniaeth neu wasanaethau gan bobl sydd heb y cymwysterau neu'r sgiliau i ymarfer yn ddiogel yn cael ei lleihau.
Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
- Mae gan y sefydliad brosesau effeithiol a chyhoeddedig ar waith i ddelio â phobl sy'n camliwio eu statws cofrestru.
- Mae'r dull a gymerir i reoli'r risgiau a achosir gan bobl sy'n camliwio eu statws cofrestru yn gymesur, yn hyblyg ac yn gallu addasu i risgiau sy'n newid ac yn dod i'r amlwg.
Safon 11: Addasrwydd parhaus ar gyfer cofrestru
Beth ydym ni'n ei ddisgwyl?
Mae gan y sefydliad ofynion a phrosesau cymesur ar waith i sicrhau bod cofrestreion yn cynnal eu sgiliau ac yn parhau i fod yn addas i ymarfer.
Pam mae'n bwysig?
Fel bod sgiliau a chymwyseddau ymarferwyr iechyd a gofal yn parhau i gael eu diweddaru a'u datblygu drwy gydol eu gyrfaoedd er mwyn iddynt allu darparu gofal diogel ac effeithiol. Fel, trwy wiriadau priodol, mai dim ond ymarferwyr sy'n addas yn broffesiynol sydd ar y gofrestr.
Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?
- Mae'r prosesau sicrwydd sydd gan sefydliadau ar waith ynghylch cymhwysedd ac addasrwydd ymarfer parhaus yn gymesur, yn deg, ac yn cyd-fynd ag arfer gorau.
- Mae'r sefydliad yn glir ynglŷn â phwrpas y gofynion y mae'n eu gosod ar gofrestreion i sicrhau eu cymhwysedd a'u haddasrwydd parhaus, ac yn eu cefnogi i fodloni'r gofynion.
- Mae cofrestreion, cyflogwyr a'r cyhoedd yn glir ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid ei wneud i gynnal y gofrestr.
- Mae gofynion sicrwydd y sefydliad ynghylch cymhwysedd ac addasrwydd ymarfer parhaus yn seiliedig ar risg ac wedi'u targedu at ddiogelu'r cyhoedd.